Rôl y Cyngor

Mae’r Cyngor Cymuned yn cynrychioli’r haen o lywodraeth sydd agosaf at y bobl. Mae’r Cyngor yn cynnwys naw Cynghorydd etholedig ac yn gweithredu yn unol â phwerau a dyletswyddau statudol.

Mae’r Cyngor yn atebol i bobl leol ac mae ganddo ddyletswydd i gynrychioli buddiannau gwahanol rannau o’r gymuned yn gyfartal. Rôl y Cyngor yw hyrwyddo’r ardal leol, cynrychioli ei fuddiannau a chefnogi gwaith grwpiau cymunedol lleol. Mae’r Cyngor yn ceisio sicrhau bod safbwyntiau lleol yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ein cymuned.

Mae’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i gynrychioli buddiannau’r gymuned.