Mae Cilymaenllwyd yn ardal wledig, yng ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin, sydd yn yn cynnwys pentrefi: Glandy Cross; Efailwen; rhan o Hebron; rhan o Login; Cwmiles a Phantycaws.
Mae cymuned Cilymaenllwyd yn ffinio â chymunedau Llanboidy a Henllanfallteg yn Sir Gaerfyrddin, a Chlunderwen, Mynachlogddu a Chrymych yn Sir Benfro. Mae Afon Tâf yn ffurfio’r ffin ddwyreiniol. Mae’r ardal yn rhan o odre Mynyddoedd y Preseli sy’n codi i uchder o 248 metr ac yn cael ei rhannu gan ddyffrynnoedd dyfnion Afon Taf a’i llednentydd.
Poblogaeth Cilymaenllwyd yng Nghyfrifiad 2022 oedd 780 o gymharu â 742 yng Nghyfrifiad 2011.
Mae Cilymaenllwyd yn gymuned ddwyieithog gyda 53% o bobl 3 oed a throsodd yn gallu siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg.