Cyfarfodydd y Cyngor

Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor Cymuned ar y Nos Fawrth olaf bob yn ail fis yng Nghaffi Beca, Efailwen, 7.30pm.

Dyddiadau cyfarfodydd 2026-27

  • 26 Mai 2026 a CCB
  • 28 Gorffennaf 2026
  • 29 Medi 2026
  • 24 Tachwedd 2026
  • 26 Ionawr 2027
  • 30 Mawrth 2027

Rhaid anfon unrhyw faterion y mae’r cyhoedd yn dymuno eu codi yn ysgrifenedig at y Clerc (gweler yr adran Cysylltu) saith diwrnod cyn y cyfarfod dilynol, neu ar lafar at unrhyw un o Aelodau’r Cyngor.

Gall aelodau’r cyhoedd fynychu cyfarfodydd. Os hoffech fod yn bresennol, cysylltwch â’r Clerc 5 diwrnod cyn y cyfarfod i ganiatáu amser i wneud y trefniadau angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys trefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os oes angen, gan fod pob cyfarfod yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cliciwch yma am yr Agendâu a’r Cofnodion.