Grŵp Cerdded Cilymaenllwyd

Prosiect Adfer Llwybr Troed Cilymaenllwyd

Hoffech chi ymuno â’n teithiau cerdded misol yn ein hardal leol?

Rydym yn grŵp cerdded anffurfiol sy’n cerdded ar ein llwybrau troed lleol a’n ffyrdd tawel.

Hoffech chi awgrymu ardal i gerdded neu hoffech chi argymell taith gerdded y gallem ei gwneud?

Rydym fel arfer yn cerdded tua 5 milltir neu fwy, ond gallant fod yn hirach neu’n fyrrach.

Gallwn stopio ar hyd y ffordd i orffwys a chael unrhyw luniaeth sydd gyda ni.

Am ragor o wybodaeth ewch i grŵp Facebook Cwm Login neu dudalen Facebook Cyngor Cymuned Cilymaenllwyd neu cysylltwch â Julie ar 07854 167269.

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Newyddion

Hyfforddiant Cofnodi Bywyd Gwyllt – Gorffennaf 24ain

Am ddysgu sut i adnabod a chofnodi bywyd gwyllt?

Beth am ymuno â ni am ddiwrnod cyffrous o adnabod a chofnodi bywyd gwyllt gyda Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru yng Nghanolfan Treftadaeth Cardi Bach, Login ddydd Mercher 24 Gorffennaf 2024, 10yb – 3yp.

Mae’r digwyddiad hwn yn berffaith i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y bywyd gwyllt anhygoel o’n cwmpas. Byddwch yn cael cyfle i archwilio a darganfod technegau amrywiol ar gyfer cofnodi bywyd gwyllt yn eich ardal leol.

  • Dewch â llyfr nodiadau a beiro/pensil i gofnodi unrhyw beth defnyddiol
  • Dewch â dillad addas, ac esgidiau cadarn ar gyfer tywydd amrywiol Cymru! Efallai byddwn ni’n mynd allan am dro i gofnodi’r hyn byddwn ni’n ei ddarganfod yn yr ardal
  • Dewch yn barod a lawrlwythwch ein ap neu cofrestrwch ar y wefan fel y gallwch chi fynd ati’n syth i gofnodi ar y diwrnod
  • Lluniaeth ar gael am £3
  • Croeso i bawb. Plant i fod yng nghwmni oedolion

Archebu yn hanfodol trwy Eventbrite:

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ddysgu gan arbenigwyr a chyfrannu at ymdrechion cadwraeth lleol.

Wedi’i drefnu gan Gyngor Cymunedol Cilymaenllwyd ar y cyd â Phrosiect Adfer Llwybrau Troed Cilymaenllwyd.

Unrhyw gwestiynau – cilymaenllwydcc@gmail.com

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Newyddion

Gweithdy Sgiliau Sylfaenol mewn Darllen Map – 8/7/24

Ydych chi erioed wedi dymuno gwybod sut i fynd o gwmpas ein hardal leol neu dirwedd Cymru?

P’un a ydych chi’n gerddwr brwd neu’n rhodiwr hamddenol, mae sgiliau darllen map yn hanfodol ar gyfer anturiaethau cerdded difyr ond diogel!

Dewch draw i’n sesiwn AM DDIM lle bydd Amy Goodwin, Swyddog Rhanbarthol Sir Gâr ar gyfer Ramblers Cymru yn eich tywys trwy sut i ddarllen map.

Bydd Amy hefyd yn esbonio’r prosiect arolwg Llwybrau sy’n cael ei gynnal yn Sir Gâr gan wirfoddolwyr.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Treftadaeth Y Cardi Bach yn Login, Dydd Llun 8fed Gorffennaf 1-3.30ypm.

Gwisgwch ddillad ac esgidiau priodol achos efallai byddwn ni’n rhoi’r hyn ddysgon ni ar waith gyda thaith gerdded leol fer.

Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, felly cofrestrwch yn gynnar trwy Eventbrite.

Croeso i bawb. Unrhyw gwestiynau – cilymaenllwydcc@gmail.com

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Newyddion

Gwirfoddolwyr Cilymaenllwyd

Mae Gwirfodolwyr Cilymaenllwyd yn grŵp o wirfoddolwyr brwdfrydig sy’n dod at ei gilydd i wneud gwaith clirio, cynnal a chadw rhwydwaith o lwybrau troed yn y gymuned.

Mae llawer o lwybrau troed yn cael eu clirio ar hyn o bryd o dan Brosiect Adfer Llwybrau Troed Cilymaenllwyd a ariennir trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU – Cymunedau Cynaliadwy, a hynny drwy Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ardal benodol yng Nghilymaenllwyd – yn nyffryn hardd yr Afon Wenallt. Mae’r safle hwn sy’n llawn bywyd gwyllt yn cael ei ystyried yn goetir hynafol ac mae’r llwybrau troed sy’n cael eu hadfer yn rhedeg ar hyd y Wenallt.

Mae hwn yn brosiect cyffrous gan ei fod yn creu cyfleoedd awyr agored gwych i’r gymuned gyfan – yn hyrwyddo iechyd a lles; yn creu lleoedd cerdded diogel; yn cyfoethogi ein perthynas â’r ardal leol a meithrin balchder gyda’n treftadaeth a’n diwylliant. Mae’r gwaith clirio hwn hefyd yn galluogi cerddwyr i gysylltu â llwybrau pwysig eraill fel Llwybr y Landsker ac mae hefyd yn adfer seilwaith cerdded rhwng pentrefi.

Ar hyn o bryd mae cyfleoedd gwirfoddoli yn cynnwys torri gordyfiant yn ôl o’r llwybrau troed, arolygu rhywogaethau ac adnabod planhigion. Mae gwirfoddoli hefyd yn rhoi cyfle i gwrdd â phobl, cadw’n heini, rhannu gwybodaeth a phrofiadau ac wrth gwrs, mwynhau’r awyr agored. P’un a allwch chi sbario diwrnod cyfan neu ychydig oriau, mae’r amser rydych chi’n ei roi yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

Os hoffech chi gofrestru fel gwirfoddolwr cynnal a chadw llwybrau troed Cilymaenllwyd, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i: cilymaenllwydcc@gmail.com

Y Gronfa Cymunedau Cynaliadwy / The Sustainable Communities Fund

ADFER LLWYBR TROED CILYMAENLLWYD / CILYMAENLLWYD FOOTPATH RESTORATION

Supported by Carmarthenshire County Council
Powered by Levelling Up
Funded by UK Government - Cilymaenllwyd Footpath Project
Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Newyddion

Sesiwn Ymgysylltu Cymunedol Llwybr Teithio Llesol Cardi Bach

Sustrans Cymru
Sustrans Cymru

Hoffai Sustrans Cymru, ar ran Cynghorau Sir Benfro a Sir Gâr, eich gwahodd chi i ddigwyddiad ymgysylltu cymunedol, er mwyn eich diweddaru ar ddatblygiad y prosiect Rheilffordd Cardi Bach hyd yn hyn.

Nod y ddau awdurdod lleol yw creu llwybr cerdded a seiclo newydd, di-draffig, cyd-ddefnyddiol ar hyd yr hen reilffordd. Bydd y llwybr yma’n cysylltu cymunedau ar hyd y ffordd yn ogystal â dathlu etifeddiaeth y rheilffordd a’r ardal gyfagos.

Mae creu llwybrau hygyrch i bawb sy’n annog pobl i ddewis moddau iachus, ecogyfeillgar o drafnidiaeth yn un o brif amcanion Sustrans Cymru. Cred Sustrans Cymru fod gan ffordd Cardi Bach y gallu i gynnig dewis iachach i drigolion lleol a thwristiaid yn gyffelyb pan eu bod nhw’n mynychu gwasanaethau gwahanol ar hyd y ffordd.

Os hoffech ddysgu mwy am y prosiect hyd yn hyn, mae croeso i chi ymuno ar gyfer y sesiynau galw heibio cymunedol ym mhrif neuadd Ysgol Bro Preseli, Crymych, o 2.30 hyd at 4.30 neu o 5.30 hyd at 7.30 ar y 16eg o Ionawr. Bydd cyfweliad byr ar ddatblygiad y prosiect yn cael ei ddilyn gan sesiwn holi ac ateb yn ystod y sesiwn hwyrach. Bydd te a choffi ar gael.

Sustrans yw’r elusen sy’n ei gwneud hi’n haws i bobl gerdded a beicio. Maent yn cysylltu pobl a lleoedd, yn creu cymdogaethau y gellir byw ynddynt, yn trawsnewid y daith i’r ysgol ac yn darparu taith gymudo hapusach ac iachach. Ymunwch â’r daith. http://www.sustrans.org.uk/

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Newyddion

Prosiect Adfer Llwybr Troed Cilymaenllwyd

Wedi ei ariannu ga Llywodraeth y DU

Fe wnaeth Cyngor Cymuned Cilymaenllwyd gyflwyno cais am grant ddiwedd mis Mawrth diwetha i adfer rhai o lwybrau troed cyhoeddus o fewn y gymuned. Ym mis Awst cafwyd cadarnhad bod y cais wedi bod yn llwyddiannus. Dyma fwy felly am y prosiect cymunedol hwn.

Enw’r prosiect yw Adfer Llwybr Troed Cilymaenllwyd ac mae wedi derbyn £57,138.96 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU – Cymunedau Cynliadwy a hynny drwy Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ardal benodol yng nghalon Cilymaenllwyd – yn nyffryn hardd yr Afon Wenallt. Mae’r man hwn yn cael ei ystyried yn goetir hynafol a bydd y llwybr sydd yn cael ei adfer yn dilyn yn agos i hynt y Wenallt. Mae’r cyllid wedi galluogi comisiynu contractiwr lleol i ymgymryd â’r gwaith clirio sylweddol hwn. Mae’r gwaith wedi dechrau a hynny mewn cydweithrediad â’r perchnogion tir perthnasol, gan sicrhau bod eu gofynion o ran agweddau iechyd a diogelwch yn cael eu parchu.

Mae’r prosiect hwn yn un cyffrous gan ei fod yn creu cyfleoedd awyr agored gwych i’r gymuned gyfan a fydd yn hyrwyddo ein hiechyd a lles; yn creu mannau cerdded diogel; yn cyfoethogi ein perthynas â’n hardal leol ac yn meithrin balchder bro yn ein diwylliant a’n hiaith. Bydd y gwaith clirio hwn hefyd yn cysylltu â llwybrau pwysig eraill fel Llwybr y Landsker ac yn adfer seilwaith cerdded rhwng pentrefi.

Er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch pawb, gofynnir i bobl beidio â mentro ar y llwybrau hyn yn ystod y misoedd nesaf gan fod peiriannau trwm yn gweithio ar y safle hwn ar hyn o bryd.

Yn y cyfamser, rydym yn awyddus i gasglu gwybodaeth – hanes lleol, bywyd gwyllt, storïau, lluniau, datblygiadau newydd ac ati – er mwyn i ni allu llenwi ein tudalennau gwe Hanes Lleol a Newyddion a chael cipolwg ar Cilymaenllwyd ddoe a heddiw. E-bostiwch unrhyw eitemau sydd gennych at: cilymaenllwydcc@gmail.com

Gwyliwch y gofod am ddiweddariadau rheolaidd am ein prosiect cymunedol.

Cefnogwyd gan Cyngor Sir Gar
Wedi'l Yrru Gan Ffyniant Bro
Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Newyddion