
Prosiect Adfer Llwybrau Troed Cilymaenllwyd
Mae Prosiect Adfer Llwybrau Troed Cilymaenllwyd wedi trawsnewid mynediad cyhoeddus i Ddyffryn Y Wenallt, gan adfer tua 4 milltir o lwybrau coetir hynafol ac ailgysylltu cymunedau Login, Efailwen, Pantycaws, a phentrefi bach cyfagos yng ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin. Dan arweiniad Cyngor Cymuned Cilymaenllwyd, gwnaed y prosiect yn bosibl diolch i ychydig dros £57,000 o Grant Cymunedau Cynaliadwy Cronfa Ffyniant Gyffredinol y DU.
Gwaith Adfer
Dros amser, roedd llawer o lwybrau troed cyhoeddus y dyffryn wedi gordyfu ac wedi mynd o’r golw. Galluogodd y cyllid glirio ac ailagor y llwybrau hyn a oedd yn cynnwys:
- Clirio’r gor-dyfiant trwchus ac adfer llwybrau troed hanesyddol
- Adeiladu pont droed bren newydd dros afon Wenallt
- Gosod gatiau newydd a draenio hanfodol
- Gwelliannau sensitif sy’n parchu preifatrwydd perchnogion tir a’r amgylchedd naturiol
Digwyddodd y gwaith rhwng Awst 2023 a Rhagfyr 2024. Comisiynwyd contractwr medrus i ymgymryd â’r gwaith clirio, gan oresgyn tywydd a thir heriol, tra bod gwirfoddolwyr lleol wedi adfer llwybr cyfan eu hunain – tystiolaeth o wir ysbryd cymunedol. I gefnogi cynnal a chadw hirdymor, buddsoddodd y prosiect hefyd mewn torrwr llwyni ac offer diogelwch ar gyfer tîm o wirfoddolwyr y gymuned.
Cliciwch ar y dolenni canlynol am luniau cyn ac ar ôl.
Cydweithio Cymunedol
Roedd hon yn ymdrech wirioneddol gydweithredol a oedd yn cynnwys:
- Perchnogion Tir lleol
- Cyngor Sir Caerfyrddin
- Remblers Cymru
- Canolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru
- Natur am Byth
- Gwirfoddolwyr cynnal a chadw llwybrau troed Login
- Llawer o aelodau’r gymuned a phartneriaid
Bu is-grŵp prosiect Adfer Llwybrau Troed neilltuol yn cyfarfod yn fisol i oruchwylio’r gwaith, gan sicrhau cyfathrebu clir, cydlynu llyfn, a pharch at berchnogion tir drwydd gydol y prosiect.
Gwella Natur, Treftadaeth a Bioamrywiaeth
Mae Dyffryn Wenallt yn gyfoethog o ran bywyd gwyllt, coetir hynafol, a chynefinoedd tebyg i goedwig law dymherus. Chwaraeodd arbenigwyr bioamrywiaeth ran bwysig yn y prosiect, gan arwain at ddarganfod ystlumod Barbastelle prin yn preswylio yn y coetir. Mewn ymateb, mae blychau ystlumod newydd wedi’u gosod i gefnogi eu cadwraeth.
Anogodd y prosiect hefyd ymgysylltiad ehangach â natur. Helpodd teithiau cerdded bioamrywiaeth, sesiynau adnabod ffyngau, a digwyddiadau dysgu awyr agored drigolion i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r dirwedd. Cafodd hen giosg ffôn hyd yn oed ei ail-bwrpasu’n ganolfan wybodaeth leol, gan gysylltu cerddwyr ag ecoleg a threftadaeth yr ardal.
Ailgysylltu Cymunedau
Mae’r llwybrau troed wedi’u hadfer yn cynnig llwybrau cerdded diogel a hyfryd sy’n hyrwyddo gweithgaredd awyr agored, iechyd a lles. Mae’r prosiect eisoes wedi sbarduno mentrau cymunedol newydd, gan gynnwys:
- Teithiau cerdded cymunedol
- Grŵp hanes lleol
- Mwy o gyfranogiad gwirfoddolwyr mewn rheoli cefn gwlad
Roedd hi’n braf gweld nifer dda o bobl yn yr agoriad swyddogol ym mis Hydref 2024, gyda thrigolion, gwirfoddolwyr a phartneriaid yn cerdded y llwybrau newydd eu hailagor ac yn dathlu’r garreg filltir bwysig hon gyda’i gilydd.
Y Gwaddol
Mae gwaith hwn wedi bod yn fwy na phrosiect adfer. Mae wedi adfywio tirweddau lleol, cryfhau cysylltiadau cymunedol, gwella mynediad at natur, a diogelu bioamrywiaeth werthfawr. Diolch i ymroddiad gwirfoddolwyr, perchnogion tir, partneriaid, a gwaith eithriadol y contractwr, mae llwybrau troed Y Wenallt unwaith eto ar agor i bawb eu darganfod a’u mwynhau.
Gallwch glywed mwy am y prosiect a’r effaith gadarnhaol y mae’r cyllid wedi’i gael ar ein cymuned yma.
Cliciwch isod am ragor o wybodaeth am:
Neu gallwch gysylltu â: cilymaenllwydcc@gmail.com