
Darganfod Cilymaenllwyd: Llwybrau Cerdded Cefn Gwlad
Llwybrau Cerdded yn Nyffryn Y Wenallt a’r cyffiniau
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod wyth llwybr troed cyhoeddus hardd yn nyffryn yr Afon Wenallt a’r cyffiniau nawr ar agor i bawb eu mwynhau. Mae’r dyffryn hwn yn enghraifft o goedwig law dymherus Geltaidd/Atlantig, yn gartref i fywyd gwyllt amrywiol a choetir hynafol. Gyda’r llwybrau erbyn hyn yn hygyrch, mae’r ardal yn cynnig cyfleoedd newydd ar gyfer teithiau cerdded natur amrywiol eu maint. P’un a ydych chi’n gerddwr profiadol, yn gerddwr penwythnos, neu am gyfle i fod yn yr awyr iach, mae’r llwybrau hyn yn ffordd wych o brofi coetiroedd, bywyd gwyllt a chefn gwlad hyfryd Cilymaenllwyd.
Rhestrir yr wyth llwybr troed isod. Mae map ar gyfer pob un ac mae rhai’n cynnwys gwybodaeth am bellter, uchder a phwyntiau o ddiddordeb.
Y Llwybrau Troed
- Prosiect Adfer Llwybr Troed y Wenallt
- Login – Cilgynydd a dychwelyd drwy Goetir Penrallt
- Cilfan Cefnypant, Cromlech Gwal-y-Filiast, Bachsylw, Penrallt, Coetir y Wenallt a Login
- Login – Llyn Maesgwyn a dychwelwch ar Lwybr y Landsker
- Login trwy Goetir Y Wenallt, Maenhir, Bachsylw, Cromlech Gwal-y-Filiast a Choetir Penrallt
- Pantyrodyn, Caffi Beca, Llwybr y Landsker, Penrallt
- Rhosfach Efailwen, Dyffryn Y Wenallt, Login
- Taith Goedwig trwy Bantyrodyn a Phenrallt
Mae mynediad i Brosiect Adfer Llwybrau Troed Y Wenallt ar gael nid yn unig o Login, ond o ddau brif fynedfa ogleddol hefyd:
- Rhosfach, Efailwen – gyda pharcio penwythnos ar gael yn Ysgol Beca
- Penrallt – wedi ei leoli ar y ffordd rhwng Pantycaws a Login

Rydym yn annog cerddwyr i ddefnyddio’r pwyntiau mynediad gogleddol hyn.
Cofiwch ddilyn y Cod Cefn Gwlad a dangos parch at y tir, bywyd gwyllt, a’r gymuned leol. Diolch am eich cydweithrediad.
Cliciwch isod os hoffech chi wybod mwy am:
Neu gallwch gysylltu â: cilymaenllwydcc@gmail.com