Prosiect Adfer Llwybr Troed Cilymaenllwyd

Wedi ei ariannu ga Llywodraeth y DU

Fe wnaeth Cyngor Cymuned Cilymaenllwyd gyflwyno cais am grant ddiwedd mis Mawrth diwetha i adfer rhai o lwybrau troed cyhoeddus o fewn y gymuned. Ym mis Awst cafwyd cadarnhad bod y cais wedi bod yn llwyddiannus. Dyma fwy felly am y prosiect cymunedol hwn.

Enw’r prosiect yw Adfer Llwybr Troed Cilymaenllwyd ac mae wedi derbyn £57,138.96 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU – Cymunedau Cynliadwy a hynny drwy Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ardal benodol yng nghalon Cilymaenllwyd – yn nyffryn hardd yr Afon Wenallt. Mae’r man hwn yn cael ei ystyried yn goetir hynafol a bydd y llwybr sydd yn cael ei adfer yn dilyn yn agos i hynt y Wenallt. Mae’r cyllid wedi galluogi comisiynu contractiwr lleol i ymgymryd â’r gwaith clirio sylweddol hwn. Mae’r gwaith wedi dechrau a hynny mewn cydweithrediad â’r perchnogion tir perthnasol, gan sicrhau bod eu gofynion o ran agweddau iechyd a diogelwch yn cael eu parchu.

Mae’r prosiect hwn yn un cyffrous gan ei fod yn creu cyfleoedd awyr agored gwych i’r gymuned gyfan a fydd yn hyrwyddo ein hiechyd a lles; yn creu mannau cerdded diogel; yn cyfoethogi ein perthynas â’n hardal leol ac yn meithrin balchder bro yn ein diwylliant a’n hiaith. Bydd y gwaith clirio hwn hefyd yn cysylltu â llwybrau pwysig eraill fel Llwybr y Landsker ac yn adfer seilwaith cerdded rhwng pentrefi.

Er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch pawb, gofynnir i bobl beidio â mentro ar y llwybrau hyn yn ystod y misoedd nesaf gan fod peiriannau trwm yn gweithio ar y safle hwn ar hyn o bryd.

Yn y cyfamser, rydym yn awyddus i gasglu gwybodaeth – hanes lleol, bywyd gwyllt, storïau, lluniau, datblygiadau newydd ac ati – er mwyn i ni allu llenwi ein tudalennau gwe Hanes Lleol a Newyddion a chael cipolwg ar Cilymaenllwyd ddoe a heddiw. E-bostiwch unrhyw eitemau sydd gennych at: cilymaenllwydcc@gmail.com

Gwyliwch y gofod am ddiweddariadau rheolaidd am ein prosiect cymunedol.

Cefnogwyd gan Cyngor Sir Gar
Wedi'l Yrru Gan Ffyniant Bro